Mae grant y Loteri wedi pweru’r sinema ar daith o amgylch Cymru, Lloegr a’r Alban, ble mae wedi dangos ffilmiau yn ardaloedd mor amrywiol â gwyl gerddorol T in the Park yn yr Alban, digwyddiadau cymunedol gwledig, ysgolion a hyd yn oed yng nghanol coedwig. “Gan ein bod wedi ein pweru yn solar, gallwn droi i fyny a dangos ffilmiau yn unrhyw le,” esbonia'r tafluniwr Paul O’Connor. “Nid oes cyfyngiad o gwbl ar y lleoedd rhyfedd a rhyfeddol y gallwn ymweld â hwy."
Defnyddiwyd arian y Loteri yn bennaf i brynu batris lithiwm i'r sinema (carafán o'r 1960au sydd wedi'u trosi) y mae eu hangen i storio Golau'r Haul i'w defnyddio fel ynni adnewyddadwy.
Mae’r sinema yn dangos ffilmiau byrion (rhwng un a 10 munud o hyd) a wneir gan gynhyrchwyr ffilmiau ac sy’n mynd i'r afael â gwahanol feysydd ar yr amgylchedd, o fygythiad newid yn yr hinsawdd i bwysigrwydd cynnal gwybodaeth ynglyn â chrefftau coetir hynafol. Gyda llyfrgell fawr o ffilmiau i ddewis ohoni, gall staff y sinema ddewis ffilmiau i gyd-fynd ag oed a diddordebau’r gynulleidfa.
“Mae’r ffilmiau yn anelu at gymell pobl i wneud newidiadau yn eu bywydau a chymryd camau cadarnhaol,” dywed Paul. “Dylai’r prosiect weithredu fel catalydd am newid.” Ynghyd ag addysgu pobl trwy'r ffilmiau, mae'r prosiect hefyd wedi defnyddio digwyddiadau cymunedol i siarad am newid yn yr hinsawdd, yn dangos yr arddangosfa panel solar ac yn esbonio sut y mae 100% o ynni adnewyddadwy'r sinema yn dod o'r haul.
Mae The Sol Cinema wedi bod yn llwyddiannus ym mhobman mae wedi teithio, ac wedi dangos ffilmiau ysbrydoledig i filoedd o bobl. Mae’r cyfryngau lleol a chenedlaethol wedi rhoi sylw i'r theatr ffilmiau unigryw gan gynnwys Newyddion y BBC ac ITV Wales.
“Mae pobl yn ciwio ym mhobman yr ydym yn mynd i gael profiad o'r sinema," dywed Paul. “Ac wrth giwio, mae pobl yn dechrau siarad â’i gilydd felly erbyn iddyn nhw fynd i mewn, maen nhw gyfeillgar ac ar ôl hynny yn trafod y materion a archwiliwyd yn y ffilm."
More